Vehicle Certification Agency Car Fuel Data - Home Page
 

SÅ´N

English

Ers iddi ymuno â’r UE mae’r DU ynghyd â’r Aelod Wladwriaethau eraill wedi cyflwyno cyfyngiadau sŵn llymach a oedd erbyn 1996 wedi haneru lefelau sŵn canfyddedig cerbydau unigol dros y 15 mlynedd blaenorol.

Ar gyflymder isel, cyflymder tebyg i’r hyn a ddefnyddir ar gyfer profi cerbydau, bydd y sŵn o’r injan, y blwch gêr a’r egsost yn uwch ar y cyfan na’r sŵn a gysylltir â wyneb y teiars/y ffordd.  Ar ffyrdd sych ac ar gyflymder cyson sŵn yr injan fydd uchaf ar y cyfan ar gyflymder hyd at 50 km/awr.  Ar gyflymder uwch na hyn sŵn y teiars fydd y sŵn uchaf a glywir.

Mae’r prawf a wneir ar geir teithwyr ar hyn o bryd, fel a nodir yng Nghyfarwyddeb 92/97 yr UE (fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan 1999/101/EC), yn golygu gyrru’r cerbyd i’r man profi ar gyflymder o 50 km/awr ac yna cyflymu gyda’r sbardun wedi ei agor i’r eithaf ar draws y man profi.  Bydd microffon a osodir bellter penodol i ffwrdd oddi wrth lwybr y car yn mesur uchafswm y sŵn a gynhyrchir a bydd hwn wedyn yn cael ei gymharu â’r ffigwr a bennwyd ar gyfer pasio neu fethu’r prawf.

Mae’r man profi wedi ei amgylchynu gan dir agored rhag i unrhyw sŵn gael ei adlewyrchu ac mae wyneb y ffordd wedi ei adeiladu’n ofalus i gwrdd â safon benodol er mwyn sicrhau bod y canlyniadau’n gyson.

Cyfnesaf >>