Vehicle Certification Agency Car Fuel Data - Home Page
 

CYFLWYNIAD

Enlgish

Mae Newid yn yr Hinsawdd, neu Gynhesu Byd-eang fel y cyfeirir ato'n aml, yn cael ei gydnabod fel un o’r bygythiadau amgylcheddol mwyaf sy’n wynebu’r Byd heddiw. Pan fydd petrol, disel neu danwydd amgen arall yn cael eu llosgi mewn injan i greu egni, y prif sgil gynhyrchion yw dŵr a Charbon Deuocsid (CO2). Er nad yw'n niweidio iechyd pobl yn uniongyrchol, CO2 yw’r pwysicaf o’r nwyon tŷ gwydr sy’n cyfrannu at Newid yn yr Hinsawdd. Mae ceir yn gwneud cyfraniad arwyddocaol i gyfanswm yr allyriadau CO2 yn y DU. Ar ben hynny, ac yn enwedig mewn ardaloedd trefol, mae trafnidiaeth ar y ffordd yn un o'r prif ffynonellau o allyriadau sy'n niweidiol i iechyd pobl.

Diben y llyfryn hwn yw cynorthwyo prynwyr i wneud dewis doeth wrth brynu car newydd. Mae’n rhestru faint o danwydd sy’n cael ei ddefnyddio, CO2 ac allyriadau eraill a ffigurau perfformiad ceir NEWYDD sydd ar werth ar hyn o bryd yn y DU. Mae hefyd yn rhoi cyngor ar faterion amgylcheddol allweddol eraill yn ogystal â chynnig arweiniad ar ddulliau o leihau effaith ceir ar yr amgylchedd. Cafwyd y ffigurau a nodir o brofion swyddogol, sy'n ofynnol cyn y gellir rhoi model arbennig o gar ar y farchnad. Mae'r rhestr o ffigurau yn cynnwys y rhan fwyaf o geir petrol a disel sydd ar werth yn y DU yn ogystal â rhai ceir sy'n cael eu gyrru gan danwydd amgen (Nwy Petroliwm Hylifol/Nwy Naturiol Cywasgedig) a rhai cerbydau hybrid sy'n cael eu gyrru gan injan tanio mewnol a moduron trydan.

Dalier Sylw

Efallai bod sawl gwahanol fanyleb (amrywiadau/fersiynau) o fodel arbennig wedi'u rhoi gyda'i gilydd dan un grŵp yn y rhestr. Felly, ffigurau mynegol yw’r rhain yn unig. Gallwch gael y ffigur cywir am gerbyd o fanyleb benodol gan y gwerthwr. Hefyd, dylid nodi ein bod wedi cael y ffigurau defnyddio tanwydd a nodir isod dan amodau prawf penodol ac efallai na ellir mo'u hatgynhyrchu dan amodau gyrru 'go-iawn'. Fodd bynnag, gellir defnyddio'r ffigurau ar gyfer cymharu modelau.

Gallwch gael fersiwn chwilio ar-lein o'r data ar wefan ATC www.vcacarfueldata.org.uk yn ogystal ag ychydig o wybodaeth hanesyddol. Dylid nodi bod y fersiwn ar y we o'r llyfryn hwn yn cael ei ddiweddaru'n amlach nag y caiff ei gyhoeddi ar bapur, ac felly ceir y wybodaeth ddiweddaraf ar y we.

Rhagor o wybodaeth

Cyfnesaf >>