YMGYRCH GYFATHREBU LLEIHAU’CH CO2 |
English |
Ym Mawrth 2007, lansiodd yr Adran Drafnidiaeth yr ymgyrch gyfathrebu LLEIHAU’CH CO2 - ACT ON CO2 i roi cyngor ar sut y gallwch helpu i leihau CO2 , darparu awgrymiadau ar yrru'n gallach ac mewn ffyrdd sy'n defnyddio tanwydd yn fwy effeithlon a phrynu cerbyd sy'n defnyddio tanwydd yn fwy effeithlon. Gallwch chwilio ar-lein am LLEIHAU'CH CO2 i gael rhagor o wybodaeth a’r ceir sy'n sgorio orau o ran allyriadau CO2 ar y cyd â What Car? yn Deg Uchaf CO2 isaf, sy'n dangos y deg car gorau am ddefnyddio tanwydd yn effeithlon ymhob dosbarth.
Gallwch ddefnyddio nifer o ffyrdd syml i leihau'r allyriadau pan fyddwch yn gyrru:
Chwyddo’n fwy i arbed mwy
Mae teiars heb ddigon o aer ynddynt yn creu mwy o wrthiant pan fydd eich car yn symud, sy’n golygu bod eich injan yn gorfod gweithio'n galetach, ac felly mae mwy o danwydd yn cael ei ddefnyddio a mwy o allyriadau CO2 yn cael eu cynhyrchu. Archwiliwch ac addaswch bwysedd eich teiars yn rheolaidd a hefyd cyn i chi fynd ar siwrnai hir. Bydd hyn hefyd yn helpu i ymestyn oes eich teiars.
Mae llai o lanast yn eich car yn golygu llai o CO2
Mae llanast neu annibendod yng nghist eich car yn bwysau ychwanegol y mae’n rhaid i’ch injan ei lusgo o gwmpas. Drwy ei symud, gallech leihau llwyth gwaith eich injan. Bydd hyn yn llosgi llai o danwydd ac yn cwtogi’ch allyriadau CO2, felly, cyn i chi gychwyn, tynnwch unrhyw eitemau na fyddwch eu hangen ar eich siwrnai o’r cerbyd.
Mae llai o stopio a chychwyn yn golygu llai o CO2
Bob tro y byddwch yn stopio ac yna’n cychwyn eto mewn ciw traffig, mae'r injan yn defnyddio mwy o danwydd ac felly'n cynhyrchu mwy o CO2. Cadwch lygad ar y traffig o’ch blaen ac arafwch yn gynnar drwy godi'ch troed yn dawel fach oddi ar y sbardun gan gadw'r car mewn gêr. Fel hyn, efallai y bydd y traffig wedi dechrau symud eto erbyn i chi gyrraedd y cerbyd o’ch blaen, a gallwch wedyn newid gêr a mynd yn eich blaen.
Mae refio’n ormodol yn cynyddu allyriadau
Mae injan car modern wedi’i ddylunio i fod yn effeithlon o’r eiliad y caiff ei gynnau ac felly nid yw refio fel car Fformiwla 1 ar flaen y grid yn gwneud dim ond gwastraffu tanwydd ac achosi mwy o draul ar yr injan.
Mae defnyddio’ch gerau’n ddoeth drwy newid i gêr uwch ychydig yn gynharach yn gostwng y refiau hefyd. Os ydych yn gyrru car disel ceisiwch newid i gêr uwch pan fydd y rhifydd refiau yn cyrraedd 2000rpm. Ar gyfer car petrol ceisiwch newid i fyny ar 2500rpm.
Mae segura’n gwastraffu tanwydd
Pan fydd yr injan yn segura, rydych yn gwastraffu tanwydd ac yn ychwanegu at yr allyriadau CO2 . Os ydych yn debygol o orfod aros yn llonydd am fwy na 3 munud, diffoddwch yr injan.
Nid oes ffordd dechnegol hawdd o ddelio â phroblem CO2 . Y ffordd fwyaf effeithiol o leihau CO2 ac allyriadau eraill yw peidio â defnyddio’r car oni bai fod hynny’n angenrheidiol gan gerdded neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus pan fo hynny’n bosibl. Pan fyddwch yn dewis cerbyd ac wedi penderfynu ar y dosbarth o gerbyd sydd fwyaf addas ar eich cyfer chi, dylech ddewis y cerbyd mwyaf effeithlon o safbwynt tanwydd yn y grŵp hwnnw gan ddefnyddio'r sgoriau Deg Uchaf CO2 isel a ddatblygwyd ar y cyd â What Car?. Gall faint o danwydd y mae ceir o faint tebyg yn ei ddefnyddio amrywio gymaint â 45% a thrwy ddewis y car mwyaf effeithlon o ran defnyddio tanwydd yn ei ddosbarth, gellir lleihau allyriadau hyd at 24%.
AWGRYMIADAU AR GYFER LLEIHAU DIFROD I’R AMGYLCHEDD
Peidiwch â defnyddio eich cerbyd ar gyfer teithiau byr os nad oes rhaid – defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu cerddwch.
- Cynlluniwch ymlaen llaw – defnyddiwch ffyrdd tawelach, cyfunwch deithiau, rhannwch geir.
•
Wrth danio injan oer – cychwynnwch cyn gynted ag y gallwch ar ôl tanio’r car.
- Gyrrwch yn llyfn ac yn effeithlon – mae gwasgu'n drwm ar y sbardun a brecio'n galed yn cael effaith sylweddol ar y tanwydd a ddefnyddir. Drwy yrru’n fwy llyfn byddwch yn arbed tanwydd.
- Gyrrwch yn arafach – rydych yn defnyddio llawer mwy o danwydd wrth yrru’n gyflym
•
Defnyddiwch gêr uchel cyn gynted ag y mae amodau’r traffig yn ei ganiatáu.
- Diffoddwch yr injan – wrth aros yn llonydd, byddwch yn gwneud sero milltir y galwyn. Diffoddwch yr injan bob amser os yw’n ddiogel i wneud hynny.
- Pwysau gormodol – peidiwch â chludo unrhyw bwysau diangen. Tynnwch y rac ben to i ffwrdd os nad ydych yn ei ddefnyddio.
•
Bydd gwasanaethu’r injan yn rheolaidd yn ei chadw ar ei gorau.
- Cadwch olwg ar bwysedd eich teiars - gwnewch yn siŵr fod y teiars wedi eu chwythu i bwysedd sy’n briodol ar gyfer y cerbyd.
- Cofiwch fod dyfeisiadau trydanol y tu mewn i'r car yn golygu eich bod yn defnyddio mwy o danwydd, ond peidiwch â chyfaddawdu ar ddiogelwch.
- Cadwch olwg ar faint o danwydd rydych yn ei ddefnyddio – bydd yn eich helpu i gael y gorau o’ch car. Gall amrywiaeth yn faint o danwydd a ddefnyddir fod yn arwydd bod rhywbeth o'i le.
- Peidiwch â defnyddio’r system awyru yn ormodol – mae defnyddio
Cyfnesaf >> |