Vehicle Certification Agency Car Fuel Data - Home Page
 

Y CYNLLUN PROFI DEFNYDDIO TANWYDD

English

Bwriad y cynllun profi defnyddio tanwydd yw darparu gwybodaeth i brynwyr ceir a fydd yn eu galluogi i gymharu faint o danwydd a ddefnyddir gan wahanol fodelau mewn profion safonol.

Mae’n rhaid i bron pob model o gar newydd sy’n cael ei gymeradwyo ar gyfer ei werthu yn Ewrop gael ei brofi i ganfod faint o danwydd mae’n ei ddefnyddio. Mae’r llyfryn hwn yn cynnwys canlyniadau’r profion hynny a dderbyniwyd gan yr Adran Drafnidiaeth ar gyfer ceir newydd y disgwylir iddynt fod ar werth ar ôl Mai 2007.

BETH YW’R PROFION SAFONOL?

Mae gweithdrefnau profi defnyddio tanwydd swyddogol wedi bod mewn grym ers yr 1970au. Mae Cyfarwyddeb 80/1268/EEC yr UE (fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan 2004/3/EC) yn disgrifio’r profion y mae’n rhaid eu cynnal ar bob car newydd sydd ar werth ers 1 Ionawr 2001.  Mae’r holl ffigyrau defnyddio tanwydd yn y llyfryn hwn yn seiliedig ar ganlyniadau’r profion hynny. 

PRAWF DEFNYDDIO TANWYDD (Cyfarwyddeb 80/1268/EEC fel y’i diwygiwyd gan 2004/3/EC)

Cafwyd cytundeb rhyngwladol ar y prawf newydd ac mae’n rhoi canlyniadau sy’n gynrychioliad tecach o ddefnyddio tanwydd ar-y-ffordd na’r profion blaenorol. Mae dwy ran i’r prawf: cylch trefol ac alldrefol. Yr un yw’r cylch profi â’r un a ddefnyddir ar hyn o bryd i bennu dosbarthiad gollyngiad egsost swyddogol ar gyfer y model o’r cerbyd dan sylw.

Mae’n rhaid i’r ceir a brofir fod wedi cael eu gyrru am gyfnod o flaen llaw ac mae’n rhaid bod ganddynt am o leiaf 1,800 milltir (3,000 cilomedr) ar y cloc cyn y prawf.

Y Cylch Trefol
Mae’r cylch profi trefol yn cael ei gynnal mewn labordy gydag olwynion y car yn troi ar olwynion mawr. Mae’r tymheredd amgylchol rhwng 20°C a 30°C ac mae’r injan yn oer, hynny yw, nid yw’r injan wedi ei rhedeg ers nifer o oriau. Mae’r cylch yn cynnwys cyfres o gyflymiadau, cyflymderau cyson, arafiadau ac injan segur. Y cyflymder uchaf yw 31 mya (50 km/awr), cyflymder cyfartalog o 12 mya (19 km/awr) ac mae’r pellter a deithir yn 2.5 milltir (4 km).  Dangosir y cylch fel Rhan Un yn y diagram isod.

Y Cylch Alldrefol
Cynhelir y cylch hwn yn syth ar ôl y cylch trefol ac mae’n golygu gyrru ar gyflymder cyson am hanner yr amser a’r gweddill yn cynnwys cyflymu, arafu a gadael yr injan yn segur. Y cyflymder uchaf yw 75 mya (120 km/awr), cyflymder cyfartalog o 39 mya (63 km/awr) ac mae’r pellter a deithir yn 2.5 milltir (7 km).  Dangosir y cylch fel Rhan Dau yn y diagram isod.

Ffigwr Defnyddio Tanwydd Cyfunol
Mae’r ffigwr cyfunol a roddir yn cynnwys y ffigyrau ar gyfer y cylch trefol a’r cylch alldrefol gyda’i gilydd. Mae’r ffigwr cyfunol felly’n ffigwr cyfartalog o ddwy ran y prawf, wedi eu haddasu yn ôl y pellter a deithir yn y ddwy ran.


Fuel consumption figure graph

CERBYDAU SY'N RHEDEG AR DDAU FATH O DANWYDD

Mae gofyn bod cerbydau a ddyluniwyd i redeg ar NPH neu NNC a Phetrol yn cael eu profi ar y ddau danwydd.  O ganlyniad, bydd dwy set o ffigyrau'n ymddangos ar gyfer cerbyd sy'n rhedeg ar ddau fath o danwydd, un set ar gyfer y cerbyd pan fo'n rhedeg ar betrol a set arall pan fo'n rhedeg ar nwy.

Cyfnesaf >>