|
Mae’r sŵn allanol a gynhyrchir gan geir sy'n cario teithwyr wedi cael ei reoli er 1929 pan gyflwynwyd y rheoliadau Cerbydau Modur (Sŵn Gormodol). Bellach, rhaid i geir newydd fodloni cyfyngiadau sŵn sy’n weithredol drwy Ewrop gyfan. Mae’r lefelau sŵn a ganiateir wedi eu gostwng yn raddol o 82 desibel (dB(A)) ym 1978 i’r lefel bresennol o 74 dB(A) a bennwyd ym 1996. Mae hyn yn golygu y byddai angen 7 cerbyd newydd i wneud yr un faint o sŵn â cherbyd a oedd yn cwrdd â'r cyfyngiadau a fodolai cyn 1978. Mae gwybodaeth am lefel y sŵn a gofnodwyd ar gyfer modelau ceir newydd yn y prawf cymeradwyo’r math hwnnw o gerbyd yn cael ei rhestru yn y tabl data hefyd.
Wrth edrych ar y tablau dylid nodi bod hawl gan gerbydau oddi-ar-y-ffordd gynhyrchu hyd at 1 dB(A) yn fwy o sŵn, ac mae’r un peth yn wir am gerbydau gydag injan chwistrell disel uniongyrchol. Mae’r ffigwr hwn yn gronnus, hynny yw, y cyfyngiad ar gyfer cerbyd oddi ar y ffordd gyda chwistrelliad disel uniongyrchol yw 76 dB(A).
Cyfnesaf >> |