|
|||||||||||||||
Mae'r llyfryn hwn yn cynnwys data ar gerbydau sy'n cael eu gyrru gan betrol a disel, yn ogystal â 'thanwydd amgen' Nwy Petroliwm Hylifol (NPH), Nwy Naturiol Cywasgedig (NNC) a cherbydau hybrid. Mae gan bob tanwydd rinweddau gwahanol o bersbectif amgylcheddol. O'i gymharu â cherbydau petrol, mae gollyngiad CO2 yn llawer is mewn cerbydau disel am bob cilomedr a deithir gan fod injan ddisel yn fwy effeithlon, felly, mae'n cael llai o effaith ar newid hinsawdd. Mae cerbydau disel hefyd yn gollwng lefelau is o CO a HC na cherbydau petrol tebyg. Ond, mae injan disel yn gollwng lefelau uwch o NOx a Gronynnau na cherbydau petrol newydd. Fel y cyfeiriwyd ato ynghynt, mae gollyngiadau’r llygrwyr hyn yn fater sy'n effeithio ar ansawdd aer, yn arbennig mewn ardaloedd trefol. Ar y cyfan, ceir petrol wedi'u trosi yw ceir NPH a NNC, naill ai gan y gwneuthurwr gwreiddiol neu gan droswr ôl-werthu. Am resymau ymarferol, mae cerbydau NPH a NNC yn dueddol o allu rhedeg ar ddau fath o danwydd sy’n golygu y gallant redeg ar naill ai petrol neu danwydd nwy. Mae cerbydau NPH yn dueddol o ddisgyn rhwng petrol a disel mewn perthynas â pherfformiad CO2. Y rheswm dros hyn yw cyfanswm carbon is a’i fod yn cynnwys mwy o egni yn ôl más y tanwydd. Mae NNC yn gollwng hyd yn oed llai o CO2 na NPH, yn debyg iawn i gerbydau disel ar y cyfan. Mewn perthynas â gollyngiadau llygrwyr lleol (CO, HC, NOx a Gronynnau), mae perfformiad cerbydau NPH a NNH o wneuthuriad da yn debyg iawn neu hyd yn oed ychydig yn well na cherbyd petrol. Mae cerbydau hybrid yn cyfuno injan tanio mewnol gyda modur trydan a batri. Gallwch yrru cerbydau hybrid mewn nifer o wahanol ffyrdd. Er enghraifft, gellir defnyddio'r modur trydan i ddarparu pŵer ychwanegol wrth wasgu ar y sbardun ac wrth gario llwythi mawr. Yna, gellir ailwefru’r batri drwy'r injan tanio mewnol neu gan yr egni a amsugnwyd wrth frecio. Mae cerbydau hybrid, ar y cyfan, yn defnyddio llai o danwydd, yn gollwng llai o CO2 ac yn gollwng ychydig yn llai o lygrwyr lleol. Mae biodanwydd hefyd yn ffordd o leihau effaith cerbydau ar newid hinsawdd. Nid yw’r rhain yn hollol CO2-niwtral oherwydd yr ynni a ddefnyddir i dyfu a phrosesu cnydau, ond gallant gynnig arbedion CO2 sylweddol o’i gymharu â phetrol a disel cyffredin. Caiff y rhan fwyaf o fiodanwydd ei werthu wedi’i gymysgu â hyd at 5% o betrol a disel cyffredin. Mae’r rhain yn addas i’w defnyddio ym mhob math o gerbydau. Mae’n bosib y gellir ymestyn y safonau tanwydd yn y dyfodol i ganiatáu mwy na 5% os credir y bydd hyn yn gydnaws â cherbydau cyfredol. Mae rhai gwneuthurwyr yn cynnig cerbydau ‘tanwydd hyblyg’ sy’n gallu rhedeg ar gyfuniadau o fio-ethanol hyd at E85 - cyfuniad o 85% o fio-ethanol a 15% o betrol, yn ogystal â phetrol cyffredin. Ychydig iawn o lefydd gwerthu tanwydd sy’n cynnig y tanwydd hwn, ond mae’r niferoedd hyn yn debygol o dyfu yn y dyfodol. Efallai y bydd rhai gwneuthurwyr yn caniatáu defnyddio cyfuniadau uwch o fio-diesel yn eu cerbydau (holwch wneuthurwr eich cerbyd). Mae’n bwysig iawn mai dim ond bio-disel o safon uchel, sy’n bodloni safon ansawdd yr EU (EN 14214), a ddefnyddir. Ceir gwybodaeth am safleoedd sy’n gwerthu biodanwydd yn http://www.est.org.uk/fleet/calculators/refuelling/ |
|||||||||||||||
|
|||||||||||||||