Vehicle Certification Agency Car Fuel Data - Home Page
 

CEIR A CHARBON DEUOCSID

English

Fel y nodir uchod, Carbon Deuocsid yw’r pwysicaf o’r nwyon tŷ gwydr sy’n cyfrannu at Newid yn yr Hinsawdd. Oni chymerir camau i leihau lefelau gollwng nwyon tŷ gwydr, megis Carbon Deuocsid, gallai holl batrwm tywydd y Byd newid, gan arwain at gyfnodau poeth, llifogydd, sychder a stormydd mwy garw a chyson.

O'i gymharu â'r gwelliannau a fu mewn gostwng lefelau gollyngiadau gwenwynig, ni fu'r ymdrech i leihau lefelau'r CO2 mewn ceir mor llwyddiannus. Ar gyfer math penodol o danwydd mae’r gollyngiadau CO2 yn uniongyrchol gymesur â faint o danwydd a ddefnyddir. Tan yn ddiweddar, nid oedd llawer o wahaniaeth yn y tanwydd y mae ceir newydd yn ei ddefnyddio ar gyfartaledd ers canol yr wythdegau. Y rheswm am hyn oedd er bod y peiriannau wedi dod yn fwy effeithlon dros y cyfnod hwn, mae màs cyfartalog cerbydau hefyd wedi cynyddu gan fod angen datblygiadau newydd i gwrdd â gofynion diogelwch mewn damweiniau a dyfodiad nodweddion eraill megis llywio grymus a systemau awyru. Fodd bynnag, dros y blynyddoedd diwethaf mae yna arwyddion bod defnydd tanwydd cyfartalog cerbydau wedi dechrau disgyn o ganlyniad i gytundeb gwirfoddol gan wneuthurwyr cerbydau i leihau gollyngiadau CO2.

Yng Nghynhadledd Kyoto ar Newid yn yr Hinsawdd a gynhaliwyd yn Rhagfyr 1997 cytunodd y rhan fwyaf o wledydd datblygedig y byddent yn ymrwymo i dargedau cyfreithiol i leihau eu gollyngiadau nwyon tŷ gwydr mewn ymateb i’r rhybuddion ynghylch y newid yn yr hinsawdd yn fyd-eang. Yn dilyn hyn, yng Ngorffennaf 1998 cytunodd y Comisiwn Ewropeaidd a Chymdeithas Gwneuthurwyr Moduron Ewrop (ACEA) ar gytundeb a fyddai’n ymrwymo ACEA i sicrhau gostyngiad o dros 25% mewn gollyngiadau CO2 o geir teithwyr newydd i ffigwr cyfartalog o 140 g/km erbyn 2008. Dyma un o gytundebau pwysicaf y diwydiant ar gyfer gostwng lefelau gollyngiadau nwyon tŷ gwydr ac mae hyn wedi golygu bod mwy o gerbydau mwy effeithlon ar gael ar y farchnad. Daethpwyd i gytundebau gwirfoddol tebyg gyda gwneuthurwyr ceir yn Japan a Korea hefyd.

Yn y DU, cymerwyd nifer o gamau i hybu pobl i brynu a defnyddio cerbydau sy’n defnyddio tanwydd yn fwy effeithlon:

  • Yng Nghyllideb Mawrth 2001 cyhoeddodd y Canghellor ei fod yn ymestyn y gyfradd is ar gyfer Treth Cerbydau i gynnwys ceir yn y dosbarth trethiannol Preifat a Nwyddau Ysgafn gydag injan 1549cc neu lai.
  • Er Mawrth 2001, mae system Raddedig o Dreth Cerbyd wedi bod mewn grym ar gyfer ceir newydd wedi'i seilio'n bennaf ar lefel eu gollyngiadau CO2.
  • Er mis Ebrill 2002, mae Trethiant Ceir Cwmnïau yn seiliedig ar ollyngiad CO2 y cerbyd a roddir i weithwyr ar gyfer eu defnydd preifat.
  • Yng Nghyllideb Mawrth 2006, cyhoeddodd y Canghellor na fyddai’n rhaid i geir gyda’r allyriadau carbon isaf dalu treth cerbyd ond cyflwynodd hicyn uwch newydd ar gyfer y ceir sy’n llygru waethaf.

Cyfnesaf >>