|
|||||||||||||||
Y prif lygrwyr eraill sy’n cael eu cynhyrchu gan beiriannau petrol, disel a thanwydd amgen yw Carbon Monocsid, Ocsidiau Nitrogen, Hydrocarbonau heb eu llosgi a gronynnau mân. Nwyon anweledig yw’r tri cyntaf. Mae gronynnau mân hefyd yn anweledig fel arfer ond mewn rhai amgylchiadau gall cerbydau disel gynhyrchu gronynnau gweladwy, sy’n ymddangos fel mwg. Gall peiriannau petrol hefyd gynhyrchu gronynnau gweladwy ar adegau yn enwedig os ydynt yn llosgi olew injan, er enghraifft, yn syth ar ôl tanio injan oer. Yn wahanol i CO2, nid yw’r llygrwyr hyn yn cael eu cysylltu’n uniongyrchol â defnyddio tanwydd. Mae lefelau'r llygredd yn dibynnu'n bennaf ar dechnoleg y cerbyd a'r cyflwr y caiff y cerbyd ei gynnal a'i gadw. Mae ffactorau eraill, megis arddull gyrru, amodau gyrru a thymheredd amgylchol hefyd yn effeithio ar lefel y gollyngiadau o lygredd. Fodd bynnag, fel man cychwyn rhaid i bob car newydd sy'n cario teithwyr fodloni safonau gollyngiad sylfaenol yr UE. Ceir disgrifiad mwy manwl o brif lygrwyr nwyon egsost a’u heffeithiau isod: CO – Mae Carbon Monocsid yn lleihau gallu’r gwaed i gludo Ocsigen a gall hyn leihau faint o Ocsigen sydd ar gael i organau allweddol. Gall cysylltiad â lefelau uchel iawn ohono, er enghraifft yr hyn a allai ddigwydd pe bai pibellau boeleri domestig yn blocio, arwain at farwolaeth. Ar lefelau is gall CO fod yn niweidiol i iechyd, yn arbennig i'r rhai hynny sy'n dioddef o afiechyd y galon. NOx – Mae Ocsidiau Nitrogen yn adweithio yn yr amgylchedd i greu Nitrogen Deuocsid (NO2) sy’n gallu cael effaith andwyol ar iechyd, yn arbennig ymhlith pobl sy’n dioddef o salwch resbiradol. Profwyd bod yna berthynas rhwng bod mewn cysylltiad â lefelau uchel ohono â phroblemau resbiradol sy'n gofyn am driniaeth yn yr ysbyty, ac fe allai bod mewn cysylltiad ag ef dros gyfnod hir effeithio ar allu'r ysgyfaint i weithio'n effeithlon a bod pobl sy'n sensitif i alergeddau fod yn dueddol o fynd yn salach. Mae NOx hefyd yn cyfrannu at ffurfio mwrllwch, glaw asid ac Osôn ar lefel y ddaear a gall ddifrodi llystyfiant. Hefyd, mae’n gallu adweithio yn yr atmosffer i ffurfio gronynnau mân (‘gronynnau eilaidd’). Gronynnau – Gall gronynnau mân gael effaith andwyol ar iechyd pobl, yn arbennig ymysg y bobl hynny sydd eisoes yn dioddef anhwyldebau resbiradol. Profwyd bod cysylltiad rhwng gronynnau a thriniaethau yn yr ysbyty o ganlyniad i broblemau resbiradol a chardiofasgwlaidd, marwolaethau cynnar y bobl hynny sy'n dioddef afiechydon resbiradol a lleihad mewn disgwyliad bywyd. HC – Mae Hydrocarbonau yn cyfrannu at ffurfiant Osôn ar lefel y ddaear sy'n arwain at y perygl o achosi niwed i'r system resbiradol mewn pobl. Ar ben hynny, mae rhai mathau o HCau yn achosi canser ac maent yn nwyon tŷ gwydr anuniongyrchol hefyd. Mae’r Llywodraeth wedi ei hargyhoeddi bod rhaid parhau i weithredu er mwyn gostwng lefelau gollyngiadau niweidiol. Ceir amlinelliad o fwriadau’r Llywodraeth ynghylch sut y dylid mynd i’r afael â llygredd awyr yn y Strategaeth Llygredd Awyr ar gyfer Lloegr, Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Mae hwn yn amlinellu safonau sy’n seiliedig ar iechyd ar gyfer yr wyth prif lygrwr awyr, lle crynhoir yr amcanion ar gyfer ansawdd awyr, ynghyd ag amserlen ar gyfer cwrdd â hwy. Mae'r Strategaeth hefyd yn nodi pa gamau sy’n rhaid eu cymryd ar lefel genedlaethol a rhyngwladol, a’r cyfraniad y gall diwydiant, trafnidiaeth a llywodraeth leol eu gwneud i sicrhau bod yr amcanion yn llwyddo. Yr her fwyaf yw bodloni’r safonau ansawdd aer ar gyfer Nitrogen Deiocsid a gronynnau mân, yn enwedig mewn ardaloedd trefol a gerllaw ffyrdd prysur. Mae gollyngiadau’r llygrwyr uchod hyn yn cael eu gostwng trwy wella ansawdd y tanwydd a ddefnyddir ganddynt a thrwy gyflwyno cyfyngiadau fwyfwy llym ar ollyngiadau cerbydau newydd. Er enghraifft, fe gymer 50 o geir newydd i gynhyrchu’r un gollyngiad i bob cilometr â char a wnaethpwyd ym 1970. Ers ugain mlynedd bellach mae cyfyngiadau ar ollyngiadau wedi cael eu pennu ar lefel Ewropeaidd ac maent yn cael eu mynegi ar hyn o bryd fel gramau o lygredd am bob cilometr a deithir. Ym 1993 cafodd cyfyngiadau ar ollyngiadau, (a adwaenir yn gyffredinol fel safonau Ewro I) eu cyflwyno ar gyfer ceir newydd ac arweiniodd hyn at fabwysiadu technegau newydd i reoli gollyngiad, e.e. catalyddion. Daeth cyfyngiadau llymach i rym ym 1997 (Ewro 2) a 2001 (Ewro 3). Daeth Ewro 4 i rym yn llawn ar 1af Ionawr 2007. (Ceir rhagor o fanylion yn Nhablau 1-3). Mae gwybodaeth am lefel y llygryddion a gofnodwyd ar gyfer modelau ceir newydd yn y prawf cymeradwyo’r math hwnnw o gerbyd yn cael ei rhestru yn y tabl data, ynghyd â'r ffigurau CO2 a’r ffigurau defnyddio tanwydd. |
|||||||||||||||
|
|||||||||||||||