Vehicle Certification Agency Car Fuel Data - Home Page
 
I BA RADDAU MAE’R PROFION SAFONOL YN GYNRYCHIOLIAD TEG O YRRU GO IAWN?            English

Oherwydd bod angen sicrhau ei bod yn bosibl cymharu’r canlyniadau geir yn y profion safonol ni allant fod yn gynrychioliadol cwbl deg o amodau gyrru go iawn. Yn gyntaf, mae’n amlwg nad yw’n ymarferol i brofi pob car newydd unigol; felly dim ond un car sy’n cael ei brofi ac mae hwnnw wedyn yn cynrychioli’r model a gall y canlyniadau fod yn well neu’n waeth na’r hyn a geid ar gyfer cerbyd arall tebyg. Yn ail, mae yna amrywiadau di- ben draw rhwng arddulliau gyrru a rhwng amodau eraill megis ansawdd y ffordd a’r tywydd, ac mae’r rhain oll yn gallu effeithio ar ganlyniadau profion. Oherwydd hyn ni fydd y lefelau defnyddio tanwydd a geir ar y ffordd o reidrwydd yn union yr un peth â chanlyniadau swyddogol y profion.

PWY SY’N CYNNAL Y PROFION?

Mae’r profion yn cael eu cynnal gan sefydliadau profi annibynnol, gan y gwneuthurwyr neu’r mewnforwyr eu hunain gan ddefnyddio eu cyfleusterau profi eu hunain. Cyn y bydd y canlyniadau’n cael eu cydnabod yn swyddogol, bydd yr Adran Drafnidiaeth yn:

  • archwilio’r labordai profi ac yn gwylio nifer o brofion yn cael eu cynnal; neu’n
  • sicrhau bod y ffigurau wedi cael eu hardystio gan lywodraeth Ewropeaidd arall yn unol â threfniadau cytunedig ar gyfer cydnabod profion rhwng gwledydd.

A YW POB MODEL YN CAEL EI GYNNWYS AR Y RHESTR?

Mae’n rhaid i bron pob math o gar sy’n cario teithwyr gael eu profi. Ond, fodd bynnag, gall nifer o fodelau nad ydynt yn gwahaniaethu fawr ddim o safbwynt y nodweddion technolegol sy’n berthnasol wrth bennu defnyddio tanwydd gael eu grwpio gyda’i gilydd mewn un ‘dosbarth’. Un car cynrychioliadol yn unig o bob dosbarth sy’n rhaid cael ei brofi. Mae rhai mathau o gerbydau yn cael eu heithrio o’r profion defnyddio tanwydd; mae’r rhain yn cynnwys ceir a gynhyrchir mewn niferoedd bychan, ceir a addaswyd i gludo mwy nag wyth o bobl (heb gynnwys y gyrrwr), cerbydau tair olwyn, cerbydau ar gyfer yr anabl, ceir teithwyr sy’n seiliedig ar faniau a cheir sy’n cael eu hadeiladu’n benodol ar gyfer eu hallforio. O ganlyniad, ni fydd y ceir hyn wedi eu labelu yn yr ystafelloedd arddangos. Ers 1af Ionawr 2001 mae pob car newydd sy’n cael ei yrru gan nwy petroliwm hylifol neu nwy naturiol cywasgedig wedi gorfod wynebu profion defnyddio tanwydd. Nid oes rhaid i lorïau, bysus, faniau na beiciau modur wynebu'r profion hyn.

CYFRIFOLDEBAU’R GWNEUTHURWYR, Y MEWNFORWYR A’R GWERTHWYR

Mae Cyfarwyddeb 1999/94/EC yr UE (fel y’i diwygiwyd gan 2003/73/EC) yn mynnu bod data am faint o danwydd y mae cerbyd yn ei ddefnyddio ac allyriant CO2 ar gael yn hawdd i gwsmeriaid. Rhaid i werthwyr ceir osod label yn dangos faint o danwydd y mae'r cerbyd yn ei ddefnyddio ac allyriant CO2 ar bob model sy'n cael ei arddangos, naill ai ar, neu gerllaw'r cerbyd. Rhoddir ffigurau defnyddio tanwydd ar ffurf litr i bob 100 cilomedr (1/100 km) a milltiroedd y galwyn (myg). Bydd y label yn rhestru ffigurau'r profion trefol, alldrefol a'r amodau cyfunol ar wahân (gweler yr adran dan y teitl 'Prawf Defnyddio Tanwydd' am ragor o fanylion am amodau'r profion). O fis Gorffennaf eleni, bydd hi’n bosibl i werthwyr gynhyrchu label “gymharol” newydd. Bydd y label newydd yn dal i ddangos y ffigurau Defnyddio Tanwydd a CO2 gorfodol a nodwyd gynt, ochr yn ochr â gwybodaeth am y band Treth Cerbyd priodol ar gyfer y cerbyd. Bydd dyluniad y band newydd yn debyg i’r labeli effeithlonrwydd ynni sy’n ymddangos ar nifer o ‘nwyddau gwyn’, fel oergelloedd (ceir enghraifft isod). Cofiwch nad yw fformat y label newydd yn orfodol ac mae hi’n annhebyg y daw’n orfodol yn y dyfodol agos.

Gwelir enghraifft o’r label gwreiddiol ar wefan ffigurau allyriant a defnyddio tanwydd ATC yn yr adran y gellir ei lawrlwytho. Bydd fersiwn o’r math newydd o label hefyd ar gael yma maes o law. Ceir defnyddio labeli eraill ond rhaid iddynt gydymffurfio â'r gofynion a amlinellir yn Rheoliadau Ceir sy'n Cario Teithwyr (Gwybodaeth am Ddefnydd Tanwydd ac Allyriannau CO2) 2001.

Rhaid i werthwyr hefyd arddangos poster – ar bapur neu ei arddangos yn electronig, mewn safle amlwg, yn nodi defnydd tanwydd ac allyriant CO2 ar gyfer pob model newydd o gar sy'n cario teithwyr, neu ar gyfer yr holl fodelau sydd ar werth yn eu hystafelloedd arddangos. Mae'r gyfarwyddeb hefyd yn mynnu bod gwneuthurwyr yn cynnwys data am faint o danwydd y mae'r cerbyd yn ei ddefnyddio ac allyriant CO2 ym mhob pamffled a hysbyseb a gyhoeddir os yw'r llenyddiaeth yn cyfeirio at fodel arbennig o gar. Gweithredir y gofynion hyn dan gyfraith y DU gan Reoliadau Ceir sy'n Cario Teithwyr (gwybodaeth am Ddefnydd Tanwydd ac Allyriannau CO2) 2001, a ddaeth i rym ar 21ain Tachwedd 2001. Nid yw'r gofynion hyn mewn grym yn Ynysoedd y Sianel nac Ynys Manaw.

COSBAU

Mae methu â dangos labeli defnyddio tanwydd ar geir newydd sy’n cael eu harddangos, neu fethu â darparu canlyniadau’r profion defnyddio tanwydd fel a restrir yn y llyfryn hwn i ddarpar brynwyr, yn gwneud gwerthwyr yn agored i wynebu dirwy o hyd at £5,000 o’u cael yn euog. Mae’r un gosb yn bod hefyd ar gyfer y sawl nad yw’n cynnwys holl ganlyniadau penodol y profion mewn llenyddiaeth hyrwyddo. Yr Adran Safonau Masnach sydd â chyfrifoldeb dros sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn y man gwerthu a dylech gysylltu â nhw os oes gennych unrhyw bryderon am hyn. Yr Asiantaeth Tystysgrifo Cerbydau sydd â chyfrifoldeb dros sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei nodi ar lenyddiaeth hysbysebu neu hyrwyddo. Os oes gennych unrhyw bryderon am y maes hwn, anfonwch e-bost at fuel@vca.gov.uk, neu ffoniwch 01179 515151.

Next Page