A YW POB MODEL WEDI EI GYNNWYS YN Y RHESTR? |
English |
Mae’n rhaid i bron pob math o gar sy’n cario teithwyr gael eu profi.Â
Ond, fodd bynnag, gall nifer o fodelau nad ydynt yn gwahaniaethu fawr
ddim o safbwynt y nodweddion technolegol sy’n berthnasol wrth bennu defnyddio
tanwydd gael eu grwpio gyda’i gilydd mewn un ‘dosbarth’. Un car cynrychioliadol
yn unig o bob dosbarth sy’n rhaid cael ei brofi. Mae rhai mathau o gerbydau
yn cael eu heithrio o’r profion defnyddio tanwydd; mae’r rhain yn cynnwys
ceir a gynhyrchir mewn niferoedd bychan, ceir a addaswyd i gludo mwy
nag wyth o bobl (heb gynnwys y gyrrwr), cerbydau tair olwyn, cerbydau
ar gyfer yr anabl, ceir teithwyr sy’n seiliedig ar faniau a cheir sy’n
cael eu hadeiladu’n benodol ar gyfer eu hallforio. O ganlyniad, ni fydd
y ceir hyn wedi eu labelu yn yr ystafelloedd arddangos. Ers 1af Ionawr
2001 mae pob car newydd sy’n cael ei yrru gan nwy petroliwm hylifol neu
nwy naturiol cywasgedig wedi gorfod wynebu profion defnyddio tanwydd.Â
Nid oes rhaid i lorïau, bysus, faniau na beiciau modur wynebu'r profion
hyn.
Cyfnesaf >> |