|
|||||||||||||||
Mae Cyfarwyddeb 1999/94/EC yr UE (fel y’i diwygiwyd gan 2003/73/EC) yn mynnu bod data am faint o danwydd y mae cerbyd yn ei ddefnyddio a gollyngiadau CO2 ar gael yn hawdd i gwsmeriaid. Rhaid i werthwyr ceir osod label yn dangos faint o danwydd y mae'r cerbyd yn ei ddefnyddio a gollyngiadau CO2 ar gyfer pob model sy'n cael ei arddangos, naill ai ar, neu gerllaw'r cerbyd. Rhoddir ffigurau defnyddio tanwydd ar ffurf litr i bob 100 cilometr (1/100 km) a milltiroedd y galwyn (myg). Bydd y label yn rhestru ffigurau'r profion trefol, alldrefol a'r amodau cyfunol ar wahân (gweler yr adran dan y teitl 'Prawf Defnyddio Tanwydd' am ragor o fanylion am amodau'r profion). O fis Medi 2005, roedd gan werthwyr hawl i gynhyrchu label “gymharol” newydd. Bydd y label newydd yn dangos y ffigurau Defnyddio Tanwydd a CO2 gorfodol a nodwyd gynt, ochr yn ochr â gwybodaeth am y band Treth Cerbyd priodol ar gyfer y cerbyd. Mae dyluniad y label newydd yn debyg i’r labeli effeithlonrwydd ynni sy’n ymddangos ar nifer o ‘nwyddau gwyn’, fel oergelloedd (ceir enghraifft isod). Cofiwch nad yw fformat y label newydd yn orfodol ac mae hi’n annhebyg y daw’n orfodol yn y dyfodol agos. Enghraifft o’r Label Gymharol
Ceir enghraifft o’r label ar wefan defnyddio tanwydd a ffigurau gollyngiadau’r Asiantaeth Tystysgrifo Cerbydau, yn yr adran llwytho oddi ar y we. Ceir defnyddio labeli eraill ond rhaid iddynt gydymffurfio â'r gofynion a amlinellir yn Rheoliadau Ceir sy'n Cario Teithwyr (Gwybodaeth am Ddefnydd Tanwydd a Gollyngiadau CO2) 2001. Rhaid i werthwyr hefyd arddangos poster ar bapur neu ei arddangos yn electronig, mewn safle amlwg, yn nodi defnydd tanwydd a gollyngiadau CO2 ar gyfer pob model newydd o gar sy'n cario teithwyr, neu ar gyfer yr holl fodelau sydd ar werth yn yr ystafell arddangos benodol honno. Mae'r gyfarwyddeb hefyd yn mynnu bod gwneuthurwyr yn cynnwys data am faint o danwydd y mae'r cerbyd yn ei ddefnyddio a gollyngiadau CO2 ym mhob pamffled a hysbyseb a gyhoeddir os yw'r llenyddiaeth yn cyfeirio at fodel arbennig o gar. Gweithredir y gofynion hyn dan gyfraith y DU gan Reoliadau Ceir sy'n Cario Teithwyr (gwybodaeth am Ddefnydd Tanwydd a Gollyngiadau CO2) 2001, a ddaeth i rym ar 21ain Tachwedd 2001. Nid yw'r gofynion hyn mewn grym yn Ynysoedd y Sianel nac ar Ynys Manaw. COSBAU |
|||||||||||||||
|
|||||||||||||||