Vehicle Certification Agency Car Fuel Data - Home Page
 

I BA RADDAU MAE’R PROFION SAFONOL YN GYNRYCHIOLIAD TEG O YRRU GO IAWN?

English

Oherwydd bod angen sicrhau ei bod yn bosibl cymharu’r canlyniadau a geir yn y profion safonol ni allant fod yn gynrychioliadol cwbl deg o amodau gyrru go iawn. Yn gyntaf, yn amlwg nid yw’n ymarferol i brofi pob car newydd unigol; felly dim ond un car sy’n cael ei brofi ac mae hwnnw wedyn yn cynrychioli’r model a gall y canlyniadau fod yn well neu’n waeth na’r hyn a geid ar gyfer cerbyd arall tebyg. Yn ail, mae yna amrywiadau  di- ben draw rhwng arddulliau gyrru a rhwng amodau eraill megis ansawdd y ffordd a’r tywydd, ac mae’r rhain oll yn gallu effeithio ar ganlyniadau profion. Oherwydd hyn ni fydd y lefelau defnyddio tanwydd a geir ar y ffordd yn debyg o fod yn union yr un peth â chanlyniadau swyddogol y profion.

Meysydd cysylltiedig eraill o ddiddordeb

Cyfnesaf >>