SUT MAE DEFNYDDIO TABLAU DATA English
Y deg cerbyd petrol
gorau
Y deg cerbyd disel
gorau
Rhennir y tablau data i'r rhannau canlynol:
Rhan A - Cerbydau sy’n cwrdd â Chyfyngiadau Allyrru Ewro IV (Y Safon Uchaf)
Rhan B - Cerbydau sy’n cwrdd â Chyfyngiadau
Allyrru Ewro III
Dalier Sylw
- Efallai y bydd rhai ceir yn ymddangos mewn mwy nag
un Rhan o'r tabl data. Y rheswm dros hyn yw bod gwahanol fanylebau
o fodel y cerbyd dan sylw wedi'u cymeradwyo i gyfyngiadau allyrru egsost
gwahanol (e.e. Ewro III neu IV). Nid yw newidiadau mewn lefelau allyrru
egsosts o reidrwydd yn golygu newid yn nisgrifiad y model. O ganlyniad,
dylid taro golwg ofalus dros bob Rhan wrth chwilio am gerbyd. Os nodir
Rhif Adnabod y Cerbyd yn nisgrifiad y model mae'n dangos y pwynt lle
mae cerbyd penodol yn bodloni'r safon Ewro dan sylw. Os ydych yn dewis
car mewn Rhan arbennig, gwnewch yn siwr bod y gwerthwr yn deall eich
bod yn chwilio am gar sydd wedi'i gymeradwyo i'r cyfyngiadau sy'n gymwys
i'r Rhan honno.
Wrth ddefnyddio’r tablau gwybodaeth, gall fod o gymorth i chi nodi'r canlynol:
- mae'r modelau wedi eu rhestru yn ôl enw’r gwneuthurwr
neu fewnforiwr.
- cesglir y ffigurau trwy yrru enghraifft o’r cerbyd a
restrir dros lwybr sefydlog mewn labordy ar ffordd sy’n symud o dan
amodau sy’n
cael eu rheoli’n ofalus. Caiff y cylch profi ei ddisgrifio'n ddiweddarach
yn y llyfryn.
- dangosir canlyniadau’r profion defnyddio tanwydd ar
ffurf litr i bob 100 cilomedr a milltiroedd i’r galwyn. Ceir siart
trosi a ffactorau
trosi tu mewn i’r clawr cefn.
- dangosir allyriannau CO2 a chanlyniadau’r
prawf allyriant egsost mewn gramau y cilomedr.
- cyfrifir cost y tanwydd
a fyddai ei angen i yrru 12000 milltir trwy gyfuno’r ffigur defnyddio
tanwydd a phris cyfartalog y tanwydd
sy’n
cael ei asesu’n flynyddol. Ar hyn o bryd mae’n 76c/litr ar
gyfer petrol, 78c/litr ar gyfer disel a 38c/litr am NPH.
- dangosir y
sŵn allanol y mae car yn ei gynhyrchu mewn desibelau fel y caiff
ei fesur ar raddfa A ar fesurydd sŵn. Dyfeisiwyd
y raddfa A
er mwyn 'pwyso' darlleniad y mesurydd sŵn fel ei fod yn gynrychioliadol
tecach o'r hyn y mae'r glust ddynol yn ei chlywed. Caiff
y prawf sŵn ei ddisgrifio'n fwy manwl yn ddiweddarach yn y llyfryn.
- Mae'n
bwysig nodi bod y ffigurau a ddangosir yn y llyfryn wedi eu cynhyrchu
i ddiben cymharu gwahanol fodelau ac nad
ydynt o
reidrwydd yn gyfystyr â’r tanwydd a ddefnyddir, lefelau
allyriant, na lefelau
sŵn a geir ar y ffordd. Oherwydd hyn fe’ch cynghorir i
beidio â graddio cerbydau y rhoddir ffigurau tebyg iawn ar eu cyfer.
- Mae’r
amrywiad o brawf i brawf yn y ffigurau ar gyfer allyriant wrth gymeradwyo
math (ar ochr dde eithaf y
tablau) yn golygu
mai prin yw
eu gwerth ar gyfer cymharu cerbydau. Ceir rhagor o
fanylion yn ddiweddarach yn y llyfryn.
- Caniateir i wneuthurwyr sy’n
cynhyrchu ar raddfa fechan ddefnyddio ffigurau o brofion o’r math
a gynhelir
yn
yr UDA er mwyn cael
caniatâd i’w gwerthu yn y DU. Mae’r cylch profi a
ddefnyddir er mwyn derbyn
cymeradwyaeth yn yr UDA yn wahanol i’r un a ddefnyddir
yn Ewrop ac felly ni ellir defnyddio cymhariaeth
uniongyrchol wrth edrych
ar
y ffigurau.
Mae’r modelau a restrir isod wedi cael eu profi gan ddefnyddio dulliau a ddefnyddir
yn yr UDA, ac mae’r ffigurau a gafwyd wedi eu rhestru.
| Model |
CO mewn g/cm
|
Hydrocarbonau mewn g/cilometr
|
NOx mewn g/cilometr
|
| Bentley Arnage R |
0.355 |
0.029 |
0.053 |
| Bentley Arnage T |
0.355 |
0.029 |
0.053 |
| Bentley Continental RL |
0.355 |
0.038 |
0.035 |
| Lamborghini Diablo 132 |
1.180 |
0.075 |
0.186 |
| Lamborghini Diablo 132 SE |
1.180 |
0.075 |
0.186 |
| Lamborghini Diablo Roadster L144 |
1.180 |
0.075 |
0.186 |
| Aston Martin DB7 Vantage (Coupé a Tho Meddal) Awtomatig |
0.472 |
0.050 |
0.044 |
| Aston Martin
DB7 Vantage (Coupé a Tho Meddal) Gêr Llaw |
0.304 |
0.044 |
0.037 |
| Aston Martin
DB7 GT |
0.286 |
0.155 |
0.249 |
| Aston Martin
DB7 GTA |
0.472 |
0.050 |
0.044 |
- Gwybodaeth CO2 – Mae'r ffigurau CO2 a ddangosir
yn gynrychioladol o'r cerbyd a brofwyd a gall y gwerthoedd amrywio
rhwng gwahanol fanylebau
(amrywiadau/fersiynau) o’r model a ddangosir. Felly, er canllaw
yn unig yw'r ffigurau hyn. Gallwch gael y ffigwr cywir am gerbyd
o fanyleb
benodol (amrywiad/fersiwn) gan y gwerthwr.
MATERION PERTHNASOL ERAILL
Treth Cerbyd – Ers mis Mawrth 2001 defnyddiwyd ffigur CO2 cerbyd fel
sail ar gyfer pennu cyfraddau treth cerbyd, neu “Treth y Ffordd” ar gyfer
ceir newydd sy'n cario teithwyr. Nodir ffigwr CO2 y cerbyd ar y V5 (Dogfen
Gofrestru). Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan DVLA http://www.dvla.gov.uk/newved.htm.
Mae cyfrifydd Treth Cerbyd ar gael ar wefan ATC www.vcacarfueldata.org.uk
. Diben y cyfrifydd hwn yw darparu syniad bras o'r Dreth Cerbyd y bydd
rhaid i chi dalu ar gar penodol.
Treth Ceir Cwmni - Ers mis Ebrill 2002 mae'r tâl budd-mewn-nwyddau a godir ar
gyfer ceir cwmni wedi bod yn seiliedig ar allyriant CO2 y cerbyd. Bydd
pob car cwmni a gofrestrwyd o fis Ionawr 1998 ymlaen yn gorfod talu'r
dreth hon. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Cyllid y Wlad www.inlandrevenue.gov.uk/cars.
Bydd y ffigwr CO2 a ddefnyddir i gyfrifo treth ceir cwmni yn cael ei
ddangos ar y V5 (Dogfen Gofrestru) ar gyfer ceir a gofrestrwyd o fis
Mawrth 2001 ymlaen. Gwnaethpwyd trefniadau gyda Chymdeithas y Gwneuthurwyr
a Gwerthwyr Moduron i ddarparu gwybodaeth hanesyddol am CO2 ar gyfer
ceir a gofrestrwyd rhwng Ionawr 1998 a Mawrth 2001. Gallwch weld y data
hyn ar wefan y Gymdeithas http://www.smmt.co.uk/CO2/CO2intro.cfm
Rhaglen Powershift – Rhaglen a noddir gan y Llywodraeth yw hon a'i diben yw annog
pobl i brynu cerbydau sy'n cael eu rhedeg gan danwydd amgen. Mae Powershift
yn darparu gwybodaeth ar bob agwedd o gerbydau sy'n defnyddio tanwydd
glân ac fe all, dan rai amgylchiadau, gynnig grantiau i helpu i dalu'r
gost ychwanegol o brynu cerbyd tanwydd amgen neu drosi cerbyd i redeg
ar danwydd amgen. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Powershift www.transportenergy.org.uk.
Er mwyn cymharu a dangos yr hyn sy’n bosibl, mae’r tablau isod yn dangos y deg
car petrol a’r deg car disel gorau o safbwynt allyriannau CO2. Cafodd
yr holl fodelau a ddangosir eu dewis o’r rhestr lawn. Rhoddir cost y
tanwydd at ddibenion cymharu, yn achos unrhyw gerbyd penodol bydd yn
ddibynnol ar y tanwydd a ddefnyddir mewn gwirionedd a’r pris a delir
am y tanwydd hwnnw. Bydd tabl tebyg ar gerbydau Tanwydd Amgen yn cael
ei gynnwys wrth i fwy o wybodaeth ddod i law. Diben y tablau isod yw
darparu sampl gynrychioladol. O ganlyniad, os oes sawl gwahanol fanyleb
o fodel cerbyd gyda ffigurau defnyddio tanwydd tebyg, yna dim ond unwaith
y caiff ei nodi isod.
Y DEG CERBYD
PETROL GORA
|
Safle
|
Math
|
Model |
Maint
Peiriant cc
|
Traws-yriant
|
CO2
(g/km)
|
Defnydd
Tanwydd
(myg)
|
Cost
gyrru o ran tanwydd
12000 milltir
|
| 1 |
HONDA |
Insight |
995 |
5MT |
80 |
83.1 |
525 |
| 2 |
TOYOTA |
Prius |
1497 |
E-CVT |
104 |
65.7 |
664 |
| 3 |
PEUGEOT |
107 |
998 |
M5 |
109 |
61.3 |
712 |
| 4 |
TOYOTA |
Aygo |
998 |
Multi5 |
109 |
61.4 |
711 |
| 5 |
SMART |
City
Coupé Hatchback |
698 |
SM6 |
113 |
60.1 |
726 |
| 6 |
DAIHATSU |
Charade |
989 |
M5 |
114 |
58.9 |
741 |
| 7 |
VAUXHALL |
Corsa |
998 |
MTA |
115 |
58.8 |
742 |
| 8 |
SMART |
Roadster |
698 |
A6 |
116 |
57.6 |
758 |
| 9 |
HONDA |
Civic
IMA |
1339 |
5MT |
116 |
57.6 |
758 |
| 10 |
DAIHATSU |
Sirion |
998 |
M5 |
118 |
56.5 |
772 |
Y DEG CERBYD DISEL GORAU
|
Safle
|
Math
|
Model |
Maint
Peiriant cc
|
Traws-yriant
|
CO2
(g/km)
|
Defnydd
Tanwydd
(myg)
|
Cost
gyrru o ran tanwydd
12000 milltir
|
| 1 |
CITROEN |
C2 |
1398 |
M5 |
107 |
68.9 |
665 |
| 2 |
CITROEN |
C3 |
1398 |
M5 |
109 |
67.3 |
681 |
| 3 |
RENAULT |
Clio |
1461 |
M5 |
110 |
67.3 |
681 |
| 4 |
PEUGEOT |
206 |
1398 |
M5 |
113 |
65.6 |
699 |
| 5 |
RENAULT |
Clio |
1461 |
M5 |
113 |
65.8 |
696 |
| 6 |
FIAT |
Panda |
1248 |
M5 |
114 |
65.7 |
697 |
| 7 |
FORD |
Fiesta |
1399 |
M5 |
114 |
65.7 |
697 |
| 8 |
VAUXHALL |
Corsa |
1248 |
MTA |
115 |
65.6 |
699 |
| 9 |
PEUGEOT |
1007 |
1398 |
M5 |
115 |
64.1 |
715 |
| 10 |
SMART |
Forfour |
1493 |
S/A6 |
116 |
64.2 |
714 |
Nôl ir pen
Next Page
|