|
|||||||||||||||
|
Y CYNLLUN PROFI DEFNYDD TANWYDD English
Mae’n rhaid i bron pob model o gar newydd sy’n cael ei gymeradwyo ar gyfer ei werthu yn Ewrop gael ei brofi i ganfod faint o danwydd mae’n ei ddefnyddio. Mae’r llyfryn hwn yn cynnwys canlyniadau’r profion hynny a dderbyniwyd gan yr Adran Drafnidiaeth ar gyfer ceir newydd y disgwylir iddynt fod ar werth ar ôl Mai 2004. BETH YW'R PROFION SAFONOL? Mae gweithdrefnau profi defnyddio tanwydd swyddogol wedi bod mewn grym ers yr 1970au. Mae Cyfarwyddeb 1999/100/EC yr UE yn disgrifio’r profion y mae’n rhaid eu cynnal ar bob car newydd sydd ar werth ers Ionawr 2001. Mae’r holl ffigurau defnyddio tanwydd yn y llyfryn hwn yn seiliedig ar ganlyniadau’r profion hynny. PRAWF DEFNYDD TANWYDD (Cyfarwyddyd 1999/100/EC) Cafwyd cytundeb rhyngwladol ar y prawf newydd ac mae’n rhoi canlyniadau sy’n gynrychioliad tecach o ddefnyddio tanwydd ar-y-ffordd na’r profion blaenorol. Mae dwy ran i’r prawf: cylch trefol ac alldrefol. Yr un yw’r cylch profi â’r un a ddefnyddir ar hyn o bryd i bennu dosbarthiad allyriant egsost swyddogol ar gyfer y model o’r cerbyd dan sylw. Mae’n rhaid i’r ceir a brofir fod wedi cael eu gyrru eisoes ac mae’n rhaid iddynt fod wedi cael eu gyrru am o leiaf 1,800 milltir (3,000 cilomedr) cyn y prawf.
Cylch alldrefol Ffigur Defnyddio Tanwydd Cyfunol
CERBYDAU SY'N RHEDEG AR DDAU FATH O DANWYDD Mae gofyn bod cerbydau a ddyluniwyd i redeg ar NPH neu NNC a Phetrol yn cael eu profi ar y ddau danwydd. O ganlyniad, bydd dwy set o ffigurau'n ymddangos ar gyfer cerbyd sy'n rhedeg ar ddau fath o danwydd, un set ar gyfer y cerbyd pan fo'n rhedeg ar betrol a set arall pan fo'n rhedeg ar nwy. |
|||||||||||||||
|
|||||||||||||||