|
|||||||||||||||
|
CEIR A LLYGREDD AER
English
Ceir disgrifiad mwy manwl o brif lygrwyr nwyon egsost a’u heffeithiau isod: CO - Mae Carbon Monocsid yn lleihau gallu’r gwaed i gludo Ocsigen a gall hyn leihau faint o Ocsigen sydd ar gael i organau allweddol. Gall cysylltiad â lefelau uchel iawn ohono, er enghraifft yr hyn a allai ddigwydd pe bai pibellau boeleri domestig yn blocio, arwain at farwolaeth. Ar lefelau is gall CO fod yn niweidiol i iechyd, yn arbennig i'r rhai hynny sy'n dioddef o afiechyd y galon. NOx - Mae Ocsidiau Nitrogen yn adweithio yn yr amgylchedd i greu Nitrogen Deuocsid (NO2) sy’n gallu cael effaith andwyol ar iechyd, yn arbennig ymhlith pobl sy’n dioddef o salwch resbiradol. Profwyd bod yna berthynas rhwng bod mewn cysylltiad â lefelau uchel ohono â phroblemau resbiradol sy'n gofyn am driniaeth yn yr ysbyty, ac fe allai bod mewn cysylltiad ag ef dros gyfnod hir effeithio ar allu'r ysgyfaint i weithio'n effeithlon a bod pobl sy'n sensitif i alergau fod yn dueddol o fynd yn salach. Mae NOx hefyd yn cyfrannu at ffurfio mwrllwch, glaw asid ac Osôn ar lefel y ddaear a gall ddifrodi llystyfiant. Gronynnau - Gall gronynnau mân gael effaith andwyol ar iechyd pobl, yn arbennig ymysg y bobl hynny sydd eisoes yn dioddef anhwyldebau resbiradol. Profwyd bod cysylltiad rhwng gronynnau a thriniaethau yn yr ysbyty o ganlyniad i broblemau resbiradol a marwolaethau cynnar y bobl hynny sy'n dioddef afiechydon resbiradol. HC - Mae Hydrocarbonau yn cyfrannu at ffurfiant Osôn ar lefel y ddaear sy'n arwain at y perygl o achosi niwed i'r system resbiradol mewn pobl. Ar ben hynny, mae rhai mathau o HCau yn achosi canser ac maent yn nwyon t^y gwydr anuniongyrchol hefyd. O'r rhai uchod, ystyrir mai Nitrogen Deuocsid a gronynnau mân yw dau o brif lygrwyr yr aer, yn enwedig mewn ardaloedd trefol. Mae’r Llywodraeth wedi ei hargyhoeddi bod rhaid parhau i weithredu er mwyn gostwng lefelau allyriannau niweidiol. Ceir amlinelliad o fwriadau’r Llywodraeth ynghylch sut y dylid mynd i’r afael â llygredd awyr yn y Strategaeth Llygredd Awyr ar gyfer Lloegr, Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Mae hwn yn amlinellu safonau sy’n seiliedig ar iechyd ar gyfer yr wyth prif lygrwr awyr, lle crynhoir yr amcanion ar gyfer ansawdd awyr, ynghyd ag amserlen ar gyfer cwrdd â hwy. Mae'r Strategaeth hefyd yn nodi pa gamau sy’n rhaid eu cymryd ar lefel genedlaethol a rhyngwladol, a’r cyfraniad y gall diwydiant, trafnidiaeth a llywodraeth leol eu gwneud i sicrhau bod yr amcanion yn llwyddo. Mae allyriannau'r llygrwyr uchod hyn yn cael eu gostwng trwy wella ansawdd y tanwydd a ddefnyddir ganddynt a thrwy gyflwyno cyfyngiadau fwyfwy llym ar allyriannau cerbydau newydd. Er enghraifft, fe gymer 20 o geir newydd i gynhyrchu’r un allyriant i bob cilomedr â char a wnaethpwyd ym 1970. Ers ugain mlynedd bellach mae cyfyngiadau ar allyriannau wedi cael eu pennu ar lefel Ewropeaidd ac maent yn cael eu mynegi ar hyn o bryd fel gramau o lygredd am bob cilomedr a deithir. Yn 1992 cafodd cyfyngiadau ar allyriannau, (a adwaenir yn gyffredinol fel safonau Ewro I) eu cyflwyno ar gyfer ceir newydd ac arweiniodd hyn at osod dyfeisiadau newydd i reoli allyriant, e.e. catalyddion. Daeth cyfyngiadau llymach i rym ym 1997 a 1998, ac mae’r rhain, sy’n cael eu hadnabod fel Ewro II, yn ddibynnol ar natur y cerbyd. Mae ceir sy'n bodloni'r safonau hyn wedi'u nodi yn Rhan C y llyfryn hwn. Gan fod cyfyngiadau Ewro II bellach wedi'u disodli, dim ond nifer cyfyngedig o gerbydau sy'n ymddangos yn yr adran hon. Daeth gofynion llymach ar allyriannau, a adweinir yn gyffredinol fel Ewro III, i rym ar 1af Ionawr 2000 ac ar gyfer y rhan fwyaf o gerbydau, daeth i rym yn llawn ar 1af Ionawr 2001. Mae cerbydau sy’n cyrraedd y safon hwn yn cael eu rhestru yn Rhan B o’r llyfryn. Bydd safonau llymach fyth ar allyriannau, sef Ewro IV, yn dod i rym ar 1af Ionawr 2005 a byddant yn gwbl weithredol erbyn 1af Ionawr 2007. Mae rhai gwneuthurwyr wedi dewis cynhyrchu cerbydau sy'n cydymffurfio â chyfyngiadau Ewro IV o flaen llaw a rhestrir y rhain yn Rhan A y llyfryn.
|
|||||||||||||||
|
|||||||||||||||