Vehicle Certification Agency Car Fuel Data - Home Page
 

YMGYRCH GYFATHREBU LLEIHAU'CH CO2

English

Ym Mawrth 2007, lansiodd yr Adran Drafnidiaeth yr ymgyrch gyfathrebu LLEIHAU'CH CO2 - ACT ON CO2 i roi cyngor ar sut y gallwch helpu i leihau CO2, darparu awgrymiadau ar yrru'n gallach ac mewn ffyrdd sy'n defnyddio tanwydd yn fwy effeithlon, a phrynu cerbyd sy'n defnyddio tanwydd yn fwy effeithlon. Gallwch chwilio ar-lein am LLEIHAU'CH CO2 i gael rhagor o wybodaeth, ynghyd â'r ceir sy'n sgorio orau o ran allyriadau CO2 ar y cyd â What Car?, sy'n dangos y deg car sy'n defnyddio tanwydd yn fwyaf effeithlon ymhob dosbarth.

Gallwch hefyd ddefnyddio nifer o ffyrdd syml i leihau'r allyriadau pan fyddwch yn gyrru:

Pwmpio mwy i wastraffu llai

Bydd teiars heb ddigon o aer ynddynt yn creu mwy o wrthiant pan fydd eich car yn symud, sy'n golygu bod eich injan yn gorfod gweithio'n galetach, ac felly mae mwy o danwydd yn cael ei ddefnyddio a mwy o allyriadau CO2 yn cael eu cynhyrchu. Archwiliwch ac addaswch wasgedd eich teiars yn rheolaidd a hefyd cyn i chi fynd ar siwrnai hir. Bydd hyn hefyd yn helpu i ymestyn oes eich teiars.

Mae llai o lanast yn eich car yn golygu llai o CO2

Mae llanast neu drugareddau yng nghist eich car yn bwysau ychwanegol y mae'n rhaid i'ch injan ei lusgo o gwmpas. Drwy ei symud, gallech leihau llwyth gwaith eich injan. Bydd hyn yn llosgi llai o danwydd ac yn cwtogi'ch allyriadau CO2, felly, cyn i chi gychwyn, tynnwch unrhyw eitemau na fyddwch eu hangen ar eich siwrnai allan o'r cerbyd.

Mae llai o stopio a chychwyn yn golygu llai o CO2

Bob tro y byddwch yn stopio ac yna’n cychwyn eto mewn ciw traffig, mae'r injan yn defnyddio mwy o danwydd ac felly'n cynhyrchu mwy o CO2. Cadwch lygad ar y traffig o’ch blaen ac arafwch yn gynnar drwy godi'ch troed yn dawel fach oddi ar y sbardun gan gadw'r car mewn gêr. Fel hyn, efallai y bydd y traffig wedi dechrau symud eto erbyn i chi gyrraedd y cerbyd o’ch blaen, a gallwch wedyn newid gêr a mynd yn eich blaen.

Mae refio'n ormodol yn cynyddu allyriadau

Mae injan car modern wedi'i dylunio i fod yn effeithlon o'r eiliad y caiff ei gynnau ac felly nid yw refio fel car Fformiwla 1 ar flaen y grid yn gwneud dim ond gwastraffu tanwydd ac achosi mwy o draul ar yr injan.
Mae defnyddio'ch gerau'n ddoeth drwy newid i gêr uwch ychydig yn gynharach yn gostwng y refiau hefyd. Os ydych yn gyrru car disel ceisiwch newid i gêr uwch pan fydd y rhifydd refiau yn cyrraedd 2000rpm. Ar gyfer car petrol ceisiwch newid i fyny ar 2500rpm.

Mae segura'n gwastraffu tanwydd

Pan fydd yr injan yn segura, rydych yn gwastraffu tanwydd ac yn ychwanegu at yr allyriadau CO2. Os ydych yn debygol o orfod aros yn llonydd am fwy na 3 munud, diffoddwch yr injan.

Nid oes ffordd dechnegol hawdd o ddelio â phroblem CO2. Y ffordd orau i leihau CO2 ac allyriadau eraill yw dim ond defnyddio'r car pan fydd hynny'n angenrheidiol. Yn lle hynny, cerddwch neu defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus lle bo hynny'n bosibl. Pan fyddwch yn dewis cerbyd ac wedi penderfynu ar y dosbarth o gerbyd sydd fwyaf addas ar eich cyfer chi, dylech ddewis y cerbyd mwyaf effeithlon o safbwynt tanwydd yn y grŵp hwnnw gan ddefnyddio'r sgoriau Deg Uchaf CO2 isel a ddatblygwyd ar y cyd â What Car? Gall faint o danwydd y mae ceir o faint tebyg yn ei ddefnyddio amrywio gymaint â 45% a thrwy ddewis y car mwyaf effeithlon o ran defnyddio tanwydd yn ei ddosbarth, yn hytrach nag un ag allyriadau cyfartalog, gellir lleihau allyriadau hyd at 24%.

RHAGOR O AWGRYMIADAU AR LEIHAU EFFAITH AR YR AMGYLCHEDD

  • Peidiwch â defnyddio eich car ar gyfer teithiau byr os nad oes rhaid – defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus, ewch ar feic neu cerddwch.
  • Cynlluniwch ymlaen llaw – defnyddiwch ffyrdd tawelach, cyfunwch deithiau, rhannwch geir.
  • Wrth danio injan oer – cychwynnwch cyn gynted ag y gallwch ar ôl tanio'r car.
  • Gyrrwch yn llyfn ac yn effeithlon – mae gwasgu'n drwm ar y sbardun a brecio'n galed yn cael effaith sylweddol ar y tanwydd a ddefnyddir. Drwy yrru'n fwy llyfn byddwch yn arbed tanwydd.
  • Gyrrwch yn arafach – rydych yn defnyddio llawer mwy o danwydd wrth yrru'n gyflym.
  • Defnyddiwch gêr uchel cyn gynted ag y mae amodau'r traffig yn ei ganiatáu.
  • Diffoddwch yr injan – wrth aros yn llonydd, byddwch yn gwneud sero milltir y galwyn. Diffoddwch yr injan bob amser os yw'n ddiogel i wneud hynny.
  • Pwysau gormodol – peidiwch â chludo unrhyw bwysau diangen felly cliriwch eich car o drugareddau.
  • Tynnwch y rac ben to i ffwrdd os nad ydych yn ei ddefnyddio; mae'n ychwanegu pwysau, yn lleihau erodynameg, ac yn defnyddio fwy o danwydd.
  • Bydd gwasanaethu'r injan yn rheolaidd yn ei chadw ar ei gorau.
  • Profwch faint o aer sydd yn eich teiars yn rheolaidd i sicrhau bod eu gwasgedd yn gywir.
  • Peidiwch â chyfaddawdu ar ddiogelwch, ond cofiwch fod defnyddio dyfeisiadau trydanol y tu mewn i'r car yn golygu eich bod yn defnyddio mwy o danwydd.
  • Cadwch olwg ar faint o danwydd rydych yn ei ddefnyddio – bydd yn eich helpu i gael y gorau o'ch car. Gall amrywiaeth yn faint o danwydd a ddefnyddir fod yn arwydd bod rhywbeth o'i le.
  • Peidiwch â defnyddio'r system awyru yn ormodol – mae defnyddio system awyru yn golygu cynnydd sylweddol yn y tanwydd a ddefnyddir.

Cyfnesaf >>