|
Mae’r sŵn allanol a gynhyrchir gan geir sy'n cario teithwyr wedi cael ei reoli er 1929 pan gyflwynwyd y rheoliadau Cerbydau Modur (Sŵn Gormodol). Bellach, rhaid i geir newydd fodloni cyfyngiadau sŵn sy’n weithredol drwy Ewrop gyfan. Mae’r lefelau sŵn a ganiateir wedi eu gostwng yn raddol o 82 desibel (dB(A)) ym 1978 i’r lefel bresennol o 74 dB(A) a bennwyd ym 1996. Mae hyn yn golygu y byddai angen 7 cerbyd newydd i wneud yr un faint o sŵn ag un cerbyd a oedd yn cwrdd â'r cyfyngiadau a fodolai cyn 1978. Mae gwybodaeth am lefel y sŵn a gofnodwyd ar gyfer modelau ceir newydd yn y prawf cymeradwyo’r math hwnnw o gerbyd yn cael ei rhestru yn y tabl data hefyd.
Wrth edrych ar yr wybodaeth hon, cofiwch fod cerbydau oddi-ar-y-ffordd yn cael cynhyrchu hyd at 1 dB(A) yn fwy o sŵn, fel ag y mae cerbydau gydag injan chwistrell disel uniongyrchol. Mae’r lwfansau hyn yn gronnus, felly’r cyfyngiad ar gyfer cerbyd oddi-ar-y-ffordd gydag injan chwistrelliad disel uniongyrchol yw 76 dB(A).
Y lefelau sŵn a nodir uchod yw’r lefelau uchaf a ganiateir ar gyfer math newydd o gerbyd. Mae nifer o gerbydau’n cynhyrchu llai o sŵn, ac mae’n anghyfreithlon addasu system egsôst cerbyd i’w wneud yn fwy swnllyd na’r lefel a recordiwyd ar gyfer y model hwnnw wrth gymeradwyo’r math o gerbyd.
Cyfnesaf >> |