|
|||||||||||||||
Mae'r llyfryn hwn yn cynnwys data ar gerbydau sy'n cael eu gyrru gan betrol a disel, yn ogystal â thanwyddau ‘amgen', Nwy Petroliwm Hylifol (LPG), Nwy Naturiol Cywasgedig (CNG) a cherbydau hybrid. Mae gan bob tanwydd rinweddau gwahanol o bersbectif amgylcheddol. O'i gymharu â cherbydau petrol, mae allyriadau CO2 yn llawer is mewn cerbydau disel am bob cilomedr a deithir gan fod injan ddisel yn fwy effeithlon, ac felly'n cael llai o effaith ar newid yn yr hinsawdd. Mae cerbydau disel hefyd yn gollwng lefelau is o CO a HC na cherbydau petrol tebyg. Ond, mae injan disel yn gollwng lefelau uwch o NOx a Gronynnau na cherbydau petrol newydd. Fel y nodwyd eisoes, mae allyriadau’r llygrwyr hyn yn fater sy'n ymwneud ag ansawdd aer, yn arbennig mewn ardaloedd trefol. Ar y cyfan, ceir petrol wedi'u trosi yw ceir LPG ac CNG, naill ai gan y gwneuthurwr gwreiddiol neu gan droswr ôl-werthu. Am resymau ymarferol, mae cerbydau CNG ac LPG yn dueddol o allu rhedeg ar ddau fath o danwydd – naill ai petrol neu danwydd nwy. Mae cerbydau LPG yn dueddol o ddisgyn rhwng petrol a disel mewn perthynas â pherfformiad CO2. Y rheswm dros hyn yw ei fod yn cynnwys llai o garbon a mwy o ynni mewn màs penodol o danwydd. Mae CNG yn gollwng hyd yn oed llai o CO2 nag LPG, yn debyg iawn i gerbydau disel ar y cyfan. Mewn perthynas ag allyriadau llygrwyr lleol (CO, HC, NOx a Gronynnau), mae perfformiad cerbydau LPG ac CNG o wneuthuriad da yn debyg iawn neu hyd yn oed ychydig yn well na cherbyd petrol. Mae cerbydau hybrid yn cyfuno injan tanio mewnol gyda modur trydan a batri. Gallwch yrru cerbydau hybrid mewn nifer o wahanol ffyrdd. Er enghraifft, gall y cerbyd ddibynnu’n llwyr ar ei injan, ar bŵer y batri, neu ar gyfuniad o’r ddau gyda phŵer y batri yn rhoi pŵer ychwanegol wrth wasgu’n drwm ar y sbardun neu os yw’r cerbyd yn cario llwyth. Yna, gellir ailwefru’r batri drwy'r injan tanio mewnol neu gan yr ynni a amsugnwyd wrth frecio, neu o gyflenwad trydan allanol mewn rhai achosion. Gall cerbydau hybrid, ar y cyfan, ddefnyddio llai o danwydd, ollwng llai o CO2 a gollwng ychydig yn llai o lygrwyr lleol, yn enwedig os ydych yn gorfod stopio a chychwyn yn aml wrth yrru. Mae biodanwydd hefyd yn ffordd o leihau effaith cerbydau ar newid yn yr hinsawdd. Nid yw’r rhain yn hollol CO2-niwtral oherwydd yr ynni a ddefnyddir i dyfu a phrosesu cnydau, ond gallant gynnig arbedion CO2 sylweddol o’u cymharu â phetrol a disel ffosil. Caiff y rhan fwyaf o fiodanwydd ei werthu mewn cymysgedd hyd at 5% gyda phetrol a disel ffosil. Mae’r cymysgeddau hyn yn addas i’w defnyddio ym mhob math o gerbydau. Mae’n bosib y gellir ymestyn y safonau tanwydd yn y dyfodol i ganiatáu mwy na 5% os credir y bydd hyn yn gydnaws â cherbydau cyfredol. Mae rhai gwneuthurwyr yn cynnig cerbydau ‘tanwydd hyblyg’ sy’n gallu rhedeg ar gyfuniadau o fioethanol hyd at E85 – cyfuniad o 85% o fioethanol a 15% o betrol, yn ogystal â phetrol ffosil. Ychydig iawn o lefydd gwerthu tanwydd sy’n cynnig y tanwydd hwn ar hyn o bryd, ond mae’r niferoedd hyn yn debygol o dyfu yn y dyfodol. Bydd rhai gwneuthurwyr yn caniatáu defnyddio cyfuniadau uwch o fiodisel yn eu cerbydau (holwch wneuthurwr eich cerbyd). Mae’n bwysig iawn mai dim ond biodisel o safon uchel, sy’n bodloni safon ansawdd yr EU (EN 14214), a ddefnyddir. Ceir gwybodaeth am safleoedd sy’n gwerthu biodanwydd yn http://www.est.org.uk/fleet/calculators/refuelling/ |
|||||||||||||||
|
|||||||||||||||