Vehicle Certification Agency Car Fuel Data - Home Page
 

CEIR A CHARBON DEUOCSID

English

Fel y nodir uchod, CO2 yw’r pwysicaf o’r nwyon tŷ gwydr sy’n cyfrannu at Newid yn yr Hinsawdd. Os na chymerir camau i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, megis CO2, gallai holl batrwm tywydd y Byd newid, gan arwain at gyfnodau poeth, llifogydd, sychder a stormydd mwy garw a chyson. Ar gyfer math penodol o danwydd bydd allyriadau CO2 y car mewn cyfrannedd union â faint o danwydd a ddefnyddir.

O’i gymharu â’r gostyngiadau mewn allyriadau gwenwynig, fel y disgrifir isod, ni fu'r ymdrech i leihau lefelau CO2 mewn ceir mor llwyddiannus. Un o’r rhesymau am hyn yw er bod peirannau wedi dod yn fwy effeithlon, mae màs cyfartalog cerbydau wedi cynyddu oherwydd datblygiadau newydd i gwrdd â gofynion diogelwch mewn damweiniau a dyfodiad nodweddion eraill megis pŵer-lywio a systemau awyru. Fodd bynnag, yng Nghynhadledd Kyoto ar newid yn yr hinsawdd a gynhaliwyd ym 1997, cytunodd y rhan fwyaf o wledydd datblygedig y byddent yn ymrwymo i dargedau cyfreithiol i leihau eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr mewn ymateb i’r rhybuddion ynghylch y newid yn yr hinsawdd yn fyd-eang. O ganlyniad i hyn, ym 1998 cytunodd y Comisiwn Ewropeaidd a chymdeithasau diwydiant y prif weithgynhyrchwyr sy’n gwerthu yn yr UE y byddent yn lleihau allyriadau carbon deuocsid g/km cyfartalog ceir newydd. Byddai’r targedau gwirfoddol hyn yn lleihau’r ffigur hwn dros 25% erbyn 2008/9, i 140g/km. Felly, mae’r defnydd tanwydd cyfartalog wedi gostwng rywfaint o ganlyniad i’r cytundebau gwirfoddol hyn.

Fodd bynnag, erbyn 2006 daeth yn amlwg ei bod yn annhebygol y câi’r targedau eu cyrraedd felly penderfynodd y Comisiwn lunio deddfwriaeth. Yn 2009, daeth Rheoliad i rym a oedd yn gosod targedau sy’n rhwym dan y gyfraith i leihau allyriadau CO2 g/km ceir newydd (Rheoliad y Comisiwn Ewropeaidd Rhif 443/2009). Dyma brif nodweddion y Rheoliad:

  • Y targed yw cyfartaledd cyffredinol o 130g/km o CO2 o 2012 ymlaen.
  • Caiff hyn ei ddyrannu drwy roi targed unigol i bob gweithgynhyrchwr ei gyrraedd, yn seiliedig ar y mathau o gerbydau a werthir ganddo—yn hytrach na 130g/km yn union i bob un, neu adael i’r diwydiant benderfynu sut i’w gyrraedd.
  • Màs y cerbyd fydd yn pennu ei ‘fath’: caiff ceir trymach ‘lwfans’ g/km uwch.
  • Caiff y targed ei gyflwyno’n raddol, fel y bydd rhaid cydymffurfio’n llwyr erbyn 2015.
  • Ceir trefniadau gwahanol ar gyfer gweithgynhyrchwyr nad ydynt yn swmp-gynhyrchu ceir.
  • Gosodwyd targed i wella ymhellach erbyn 2020, sef 95g/km (am y tro).
  • Mae nifer o ffeithiau i’w cofio i unrhyw un sy’n berchen car neu’n gyrru car ac sy’n poeni sut y bydd hyn yn effeithio arnynt:
  • Mater i weithgynhyrchwyr yn unig yw’r rheoliad: ni fydd rhaid i yrwyr na phrynwyr ceir wneud dim yn wahanol.
  • Mae’n gweithio ar sail gyfartalog: ni fydd yn ei gwneud yn ofynnol i geir unigol fodloni trothwy g/km penodol (yn wahanol i ddeddfwriaeth ansawdd aer) nac yn gwahardd ceir ar sail eu hallyriadau CO2
  • Dim ond i geir newydd y mae’n berthnasol: nid yw’n golygu bod rhaid tynnu ceir hÅ·n ag allyriadau uwch oddi ar y ffordd
  • Mae’n berthnasol i bob car sydd wedi’i gofrestru yn yr UE: nid dim ond i weithgynhyrchwyr o Ewrop y bydd yn berthnasol, ac ni fydd yn effeithio ar geir a gynhyrchwyd yn Ewrop ac a gofrestrir am y tro cyntaf y tu allan i’r UE
  • Nid yw’n fater o osod gwahanol dargedau i wahanol wledydd: er y caiff gweithgynhyrchwyr, wrth gwrs, ddewis amrywio’r hyn y byddant yn ei gynnig rhwng gwladwriaethau, mae’r targedau ar gyfer yr UE cyfan
  • Nid yw’n dweud wrth lywodraethau sut i osod trethi sy’n gysylltiedig â cherbydau: bydd hyn yn parhau i fod yn fater i bob gwladwriaeth
  • Yn y DU, cymerwyd nifer o gamau eraill i hybu pobl i brynu a defnyddio cerbydau sy’n defnyddio tanwydd yn fwy effeithlon:
  • Yng Nghyllideb Mawrth 2001 cyhoeddodd y Canghellor ei fod yn ymestyn y gyfradd is ar gyfer Treth Cerbyd i gynnwys ceir yn y dosbarth treth Preifat a Nwyddau Ysgafn gydag injan 1549cc neu lai.
  • Er Mawrth 2001, mae system Raddedig o Dreth Cerbyd wedi bod mewn grym ar gyfer ceir newydd wedi'i seilio'n bennaf ar lefel eu hallyriadau CO2.
  • Er mis Ebrill 2002, mae Treth Ceir Cwmni yn seiliedig ar allyriadau CO2 y cerbyd a roddir i weithwyr ar gyfer eu defnydd preifat.
  • Yng Nghyllideb Mawrth 2006, cyhoeddodd y Canghellor na fyddai’n rhaid i geir gyda’r allyriadau carbon isaf dalu treth cerbyd ond cyflwynodd hicyn uwch newydd ar gyfer y ceir sy’n llygru waethaf.

Targedau CO2 ar gyfer Faniau

Dim ond i gerbydau a gymeradwywyd fel ceir teithwyr (h.y. cerbydau M1) y mae rheoliad newydd yr UE ar allyriadau CO2 yn berthnasol. Y llynedd, cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd ddeddfwriaeth ddrafft i reoleiddio allyriadau CO2 g/km o faniau (cerbydau N1) mewn ffordd debyg – mae Aelod Wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd a Senedd Ewrop wrthi’n trafod hyn ar hyn o bryd.

Cyfnesaf >>