| C: Nid wyf yn gallu cael yr un ffigyrau defnyddio tanwydd yn fy ngherbyd ag a nodir yn y cyhoeddiad “Defnyddio Tanwydd a Gollyngiadau Ceir Newydd” a/neu ar y wefan. |
| A: Oherwydd bod angen sicrhau ei bod yn
bosibl cymharu’r canlyniadau a geir yn y profion safonol ni allant
fod yn gwbl gynrychioliadol o amodau gyrru go iawn. Yn gyntaf, nid
yw’n ymarferol i brofi pob car newydd unigol; felly dim ond un car
sy’n cael ei brofi ac mae hwnnw wedyn yn cynrychioli’r model a gall
y canlyniadau fod yn well neu’n waeth na’r hyn a geid ar gyfer cerbyd
arall tebyg. Yn ail, mae yna amrywiadau di-ben draw rhwng arddulliau
gyrru a rhwng amodau eraill megis ansawdd y ffordd a’r tywydd, ac
mae’r rhain oll yn gallu effeithio ar ganlyniadau profion. Oherwydd
hyn ni fydd y lefelau defnyddio tanwydd a geir ar y ffordd o reidrwydd
yn cyd-fynd yn union â chanlyniadau swyddogol y profion. |
| |
| C: Rwy’n gwerthfawrogi bod ffigyrau defnyddio tanwydd swyddogol yn cael eu cyfrifo dan amodau gyrru rheoledig, ac o’r herwydd, efallai nad ydynt yn hollol gynrychioladol o amodau gyrru go-iawn. Serch hynny, rwy’n poeni bod gwahaniaeth sylweddol rhwng y ffigyrau yr wyf i’n eu cael yn fy ngherbyd i a’r ffigyrau swyddogol. |
| A: Dylech droi at ‘Awgrymiadau ar gyfer
Lleihau Difrod i’r Amgylchedd’ sy’n amlinellu ffyrdd o ddefnyddio
tanwydd yn fwy effeithlon. Os yw’ch defnydd o danwydd yn parhau yn
uwch nag a fyddech yn ei ddisgwyl ar ôl dilyn y pwyntiau a argymhellir,
mae’n bosib bod hyn yn arwydd bod nam ar eich cerbyd a dylech fynd
â’ch car i ddeliwr awdurdodedig neu sefydliad cymwys i’w archwilio. |
| |
| C: Sut y caiff y prawf defnyddio tanwydd ei gynnal? |
A: Rhoddir amlinelliad o’r prawf yng Nghyfarwyddeb
93/116/EC ac mae’n rhoi canlyniadau sy’n gynrychioliad tecach o ddefnyddio
tanwydd ar-y-ffordd na’r profion blaenorol. Mae dwy ran i’r prawf:
cylch trefol ac alldrefol. Mae’n rhaid i’r ceir a brofir fod wedi
cael eu gyrru am gyfnod o flaen llaw ac mae’n rhaid bod ganddynt
o leiaf 1,800 milltir (3,000 cilomedr) ar y cloc cyn y prawf.
Y Cylch Trefol:
Mae’r cylch profi trefol yn cael ei gynnal mewn labordy gydag olwynion
y car yn troi ar olwynion mawr. Mae’r tymheredd amgylchol rhwng
20°C a 30°C ac mae’r injan yn oer, hynny yw, nid yw’r injan wedi
ei rhedeg ers nifer o oriau. Mae’r cylch yn cynnwys cyfres o
gyflymiadau, cyflymderau cyson, arafiadau ac injan segur. Y cyflymder
uchaf yw 31mya (50km/awr), cyflymder cyfartalog o 12mya (19km/awr)
ac mae’r pellter a deithir yn 2.5 milltir (4 km).
Y Cylch Alldrefol:
Mae’r cylch hwn yn cael ei gynnal yn syth ar ôl y cylch trefol
ac yn ystod y rhan fwyaf ohono mae’r car yn cael ei yrru ar gyflymder
cyson gyda’r gweddill yn gyflymiadau, arafiadau, a pheth injan
segur.<0. Y cyflymder uchaf yw 75mya (120km/awr), cyflymder
cyfartalog o 39mya (63 km/awr) ac mae’r pellter a deithir yn 4.3
milltir (7km).
Ffigwr Defnyddio Tanwydd Cyfunol:
Mae’r ffigwr cyfunol a roddir yn cynnwys y ffigyrau ar gyfer y
cylch trefol a’r cylch alldrefol gyda’i gilydd. Mae’r ffigwr
cyfunol felly’n ffigwr cyfartalog o ddwy ran y prawf, wedi eu
haddasu yn ôl y pellter a deithir yn y ddwy ran. |
| |
| C: Wrth brynu car newydd, pa wybodaeth am ddefnyddio tanwydd allaf ei chael gan y gwerthwr? |
| A: Mae’n rhaid i ganlyniadau’r profion safonol
gael eu dangos ar labeli sydd wedi eu glynu ar bob car newydd sy’n
cael ei arddangos mewn ystafelloedd arddangos neu y tu allan iddynt,
ac mae’n rhaid i werthwyr fod â’r ffigyrau defnyddio tanwydd wrth
law ar gyfer pob car newydd os bydd darpar brynwyr yn gofyn amdanynt.
Nid yw’r gofynion hyn yn berthnasol i Ynysoedd y Sianel nac Ynys
Manaw. |
| |
| Ble gaf i fwy o wybodaeth am y cynllun Treth Cerbyd Raddedig? |
| A: Ceir mwy o wybodaeth ar wefan Direct
Gov: http://www.direct.gov.uk/ ac ar wefan y DVLA http://www.dvla.gov.uk/newved.htm.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, mae croeso i chi gysylltu
â DVLA yn rhad ac am ddim ar 0845 605222. |
| |
| C: Ble gaf i fwy o wybodaeth am y trefniadau Treth Ceir Cwmni newydd? |
| A: Ceir rhagor o fanylion gan eich swyddfa
Cyllid y Wlad leol neu ar eu gwefan http://www.inlandrevenue.gov.uk/cars |